Enw ar agweddau o'r celfyddydau yn y Gorllewin sydd yn dynwared neu'n portreadu diwylliannau'r Dwyrain Canol, De Asia, a Dwyrain Asia yw Dwyreinioldeb. Roedd Dwyreinioldeb yn ffurf boblogaidd yn llenyddiaeth a pheintio Ewrop yn y 18g a'r 19g. Datblygodd yn sgil astudiaethau ar hanes, diwylliannau, a chymdeithasau'r Dwyrain gan ysgolheigion o Ewrop yn yr un cyfnod. Ymhlith y cerflunwyr Ffrengig mwyaf adnabyddus yn hanes orllewinol mae Alfred Barye a Emile Guillemin, a gynhyrchodd Y Ceffyl Arab gyda'i gilydd yn 1848.
Ers i'r ysgolhaig Edward Said gyhoeddi ei lyfr Orientalism yn 1978, defnyddir y gair hefyd yn feirniadol i gyfeirio at agweddau negyddol a nawddoglyd yn y Gorllewin tuag at gymdeithasau Asia a Gogledd Affrica. Yn ôl Said, mae cyfryngau a chelfyddydau'r Gorllewin yn ystyried y cymdeithasau hyn yn ddisymud ac yn annatblygedig yn eu hanfod, gan lunio ffug-bortread o ddiwylliant y Dwyrain a ellir ei hastudio, ei disgrifio, a'i ailgynhyrchu yn y Gorllewin. Ensyniad y fath feddylfryd ydy'r rhagdyb, neu hunan-dyb, taw gwareiddiad datblygedig, rhesymol, ystwyth, a rhagorol yw'r Gorllewin.